Gair am y Gymdeithas

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw’r Gymdeithas hynaf ond tri yn y byd, wedi’i sefydlu ym 1876. Mae’r Gymdeithas wedi llywodraethu pêl-droed yn y wlad yn barhaus ers hynny. Mae CBDC yn aelod o FIFA (aelod cyswllt ers 1910) ac UEFA (aelod cyswllt ers 1954) ac yn un o’r pum cymdeithas (ynghyd â FIFA, yr FA, y SFA ac IFA) sy’n rhan o’r Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol, sef gwarcheidwaid "Cyfreithiau’r Gêm".

Yn ogystal â’i chyfrifoldebau gweinyddol dros bêl-droed yng Nghymru, mae’r Gymdeithas hefyd yn gyfrifol am gynnal yr wyth tîm rhyngwladol, sef y timau "A", "Dan 21", "Dan 19", "Dan 17", “Lled-broffesiynol”, “Merched”, “Merched Dan 19” a “Merched Dan 17".

Caiff y broses o weinyddu’r gêm yng Nghymru ei llywodraethu gan y Cyngor, sy’n cynnwys Llywydd, dau Is-lywydd, Trysorydd a phedwar ar bymtheg o aelodau etholedig / enwebedig. Yn ogystal, ceir hefyd pum Is-lywydd am Oes a dau Cynghorydd am Oes. Mae’n anrhydedd i’r Gymdeithas gael Ei Mawrhydi y Frenhines yn noddwr.

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gyfeiriad cyffredinol Pêl-droed yng Nghymru. Yr Ysgrifennydd Cyffredinol a’i staff sy’n gyfrifol am reoli trafodion y Gymdeithas o ddydd i ddydd. Mae gan Gymru, sy’n un o gymdeithasau lleiaf FIFA ac UEFA o ran niferoedd a daearyddiaeth, bedwar ar hugain o staff llawn-amser a thri aelod o staff rhan-amser. I gael rhagor o wybodaeth am y Staff a Chyfansoddiad y Gymdeithas, ewch i’r tudalennau perthnasol ar y wefan hon.

Cyfansoddiad y Gymdeithas

Cyfansoddiad y Cyngor

“Ardal Gogledd Cymru”, gydag Ardal Gogledd Cymru wedi’i rhannu ymhellach yn Is-ardaloedd Gogledd-ddwyrain Cymru, Arfordir Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Bydd Clybiau Cymwys mewn Ardal neu Is-ardal benodol yn pleidleisio dim ond dros yr ymgeiswyr hynny a enwebir yn Gynrychiolydd ar gyfer yr Ardal neu’r Is-ardal benodol dan sylw. Gan y Cyngor y mae’r per i ragnodi nifer y pleidleisiau y mae’n rhaid i Glwb Cymwys eu bwrw mewn unrhyw etholiad. Bydd methu â bwrw’r nifer penodedig o bleidleisiau yn golygu bod papur pleidleisio’r Clwb Cymwys yn ddi-rym. Bydd papurau pleidleisio unrhyw Ardal neu Is-ardal benodol yn nodi’n glir sawl pleidlais y mae’n rhaid i Glybiau Cymwys eu bwrw yn yr etholiad. Dim ond y Clybiau Cymwys hynny a oedd, ar y cyntaf o Awst cyn yr etholiad dan sylw (boed yn etholiad bob tair blynedd neu’n etholiad ar gyfer swydd wag), yn gymwys i fwrw pleidlais mewn Cyfarfod, fydd â hawl enwebu ymgeisydd i’w ethol, a hawl pleidleisio yn yr etholiad hwnnw.

Cynrychiolaeth Dda

5. Ac eithrio’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Rheolau, bydd gan y Cyngor, at ddibenion pennu’r etholaeth ar gyfer chwe (6) Chynrychiolydd De Cymru a chwe (6) Chynrychiolydd Gogledd Cymru, a thrwy wneud hynny, sicrhau bod Cymru gyfan yn cael ei chynrychioli’n dda, yr hawl i rannu’r wlad yn ardaloedd ac is-ardaloedd addas, a dyrannu cynrychiolaeth yn addas rhwng Clybiau Cymru (“yr Ardaloedd”), cyn belled ag y bo hynny’n bosibl. Ardaloedd cyfredol y wlad yw “Ardal De Cymru” ac “Ardal Gogledd Cymru”, gydag Ardal Gogledd Cymru wedi’i rhannu ymhellach yn Is-ardaloedd Gogledd-ddwyrain Cymru, Arfordir Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Bydd Clybiau Cymwys mewn Ardal neu Is-ardal benodol yn pleidleisio dim ond dros yr ymgeiswyr hynny a enwebir yn Gynrychiolydd ar gyfer yr Ardal neu’r Is-ardal benodol dan sylw. Gan y Cyngor y mae’r per i ragnodi nifer y pleidleisiau y mae’n rhaid i Glwb Cymwys eu bwrw mewn unrhyw etholiad. Bydd methu â bwrw’r nifer penodedig o bleidleisiau yn golygu bod papur pleidleisio’r Clwb Cymwys yn ddi-rym. Bydd papurau pleidleisio unrhyw Ardal neu Is-ardal benodol yn nodi’n glir sawl pleidlais y mae’n rhaid i Glybiau Cymwys eu bwrw yn yr etholiad. Dim ond y Clybiau Cymwys hynny a oedd, ar y cyntaf o Awst cyn yr etholiad dan sylw (boed yn etholiad bob tair blynedd neu’n etholiad ar gyfer swydd wag), yn gymwys i fwrw pleidlais mewn Cyfarfod, fydd â hawl enwebu ymgeisydd i’w ethol, a hawl pleidleisio yn yr etholiad hwnnw.