Yr hyn sy’n sail i raglen noddwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw egwyddor o ‘bartneriaeth’. Bydd y Gymdeithas yn cydweithio’n egnïol â’n holl bartneriaid busnes i sicrhau bod pob rhaglen yn seiliedig ar lwyddiant a budd y naill a’r llall.
Mae gan y Gymdeithas gamau allweddol sy’n ategu’r egwyddor o bartneriaeth. Mae’r camau hyn yn creu strwythur partneriaeth cadarn, sy’n arloesol, yn effeithlon, yn effeithiol ac o fudd i’r ddwy ochr.
Rydym yn rhannu’r un egwyddorion craidd â Vauxhall:
Deall eu hanghenion busnes, gan ganiatáu i’r Gymdeithas ddarparu atebion hyblyg a chreadigol. Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) clir a mesuradwy a fydd yn ein helpu i fonitro cynnydd yn barhaus.
Mae CBDC yn cynnig agwedd greadigol ac agored a rheolaeth ymroddedig er mwyn cyflwyno negeseuon a hawliau craidd a fydd yn ychwanegu gwerth i’n partneriaid.
Rydym ni’n gwrando ar ein partneriaid.
Rhaid i ddarpar bartneriaid deimlo eu bod yn rhan o achos, eu bod ar daith ag iddi ddiben a bwriad, a’u bod yn fwy na logo ar grys.
Mae’r Gymdeithas yn credu mewn ychwanegu gwerth heb gyfaddawdu, er mwyn helpu brandiau i ddweud eu storïau eu hunain drwy eu hangerdd dros Bêl-droed yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ian Davis idavis@faw.co.uk neu Suzanne Twamley stwamley@faw.co.uk