Cymdeithas Bel-Droed Cymru: Strategaeth 2012

Lansio Strategaeth - Cymdeithas Bêl-droed Cymru


Cymdeithas Bel-Droed Cymru: Strategaeth 2012

Cymdeithas Bel-Droed Cymru: Strategaeth 2012

Heddiw, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ei Chynllun Strategol a’i gweledigaeth ar gyfer dyfodol pêl-droed yng Nghymru.

Yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd, cafodd y gynulleidfa eu hannerch gan Brif Weithredwr CBDC, Jonathan Ford, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a’r Rheolwr Cenedlaethol newydd, Chris Coleman.

Meddai Jonathan Ford: “Mae’r Cynllun Strategol sy’n cael ei lansio gennym heddiw yn benllanw llawer iawn o waith caled gan nifer o bobl.

Click to view the FAW Strategy / Strategaeth 2012

Click to view the FAW Strategy / Strategaeth 2012

“Mae’r neges wedi bod yn glir ar y bathodyn ers blynyddoedd – Gorau Chwarae Cyd Chwarae. Mae ein negeseuon yn glir: mwy o waith tîm, cyfathrebu’n well, persbectif datblygu hirdymor ac ennill mwy.”

Ychwanegodd: “Mae ffordd Gymreig o chwarae yn rhan o’n gweledigaeth, yn ogystal â chyrraedd cystadleuaeth o bwys. At hynny, rydym yn awyddus i sicrhau bod yr Uwch-gynghrair a chystadlaethau domestig yn chwarae rhan amlwg o fewn y byd chwaraeon yng Nghymru.

“At hynny, mae’n bwysig bod yn flaengar a hyrwyddo Cymdeithas sydd yn edrych tuag at y dyfodol, yn fodern ac yn uchel ei phroffil.”

Roedd CBDC yn arbennig o falch bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cefnogi ac yn hyrwyddo ei Chynllun Strategol. Mae’r Prif Weinidog yn frwd iawn dros chwaraeon, ac fe adlewyrchodd ar y camau breision y mae’r tîm cenedlaethol wedi’u cymryd dros y deunaw mis diwethaf, yn ogystal â llwyddiant Abertawe yn Uwch-gynghrair Lloegr a llwyddiant Caerdydd yn cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Carling.

Mae Chris Coleman, yn ei wythnos gyntaf fel Rheolwr Cymru, yn cefnogi’r Cynllun yn llawn, gan ychwanegu bod ei rôl “…fwy fel rheolwr pêl-droed yng Nghymru ac nid y tîm Cenedlaethol yn unig.”